|
Baboushka is the Russian for grandmother. For some reason this Russian folk tale is very often performed in junior schools in Wales [and usually in Welsh]. |
|
BABOUSHKA Yn Rwsia mae chwedl brydferth y Nadolig wedi cael ei hadrodd dros y canrifoedd. Y noson y cafodd y baban Iesu ei eni, roedd hen wraig yn eistedd ar ei phen ei hun yn ei bwthyn bach, yn syllu ar y fflamau oedd un dawnsio ar ei haelwyd. Y tu allan, roedd gwynt oer y gaeaf yn cwyno'n ddigalon. Roedd eira un gorchuddio'r ddaer fel carped gwyn, ac roedd canghennau'r coed un ia i gyd ac yn clecian yn y gwynt. Roedd yr hen wraig yn falch bod gyda hi dan, a'i bod hi'n gallu cysgu yn ei gwely bach clyd, ac nad oedd rhaid iddi hi fynd allan i'r oerfel. Yn ddisymwth daeth cnoc ar y drws a phan agorodd hi ef, daeth tri hen wr i mewn i'w bwthyn. Roedd gyda nhw farfau gwyn, ac roedden nhw'n gwisgo dillad brenhinol ac yn cario parseli drudfawr. "Rydyn ni wedi teithio un bell, Baboushka", meddan nhw, "ac rydyn ni wedi galw heibio i ddweud wrthot ti am y Tywysog Bychan sydd wedi cael ei eni y noson yma ym Methlehem. Mae e'n dod i deyrnasu dros y byd ac I ddysgu pob dyn a phob dynes i fod yn garedig ac yn driw. Rydyn ni'n mynd ag anrhegion iddo fe. Tyrd gyda ni, Baboushka!" Ond fe gamodd hi yn ei hol, wrth glywed y storm yn curo yn ddidrugaredd ar ei bwthyn bach, ac doedd hi am adael ei hystaffell glyd. Felly dyma'r hen ddynion yn teithio yn eu blaenau ar eu pennau eu hunain trwy'r eira a'r gwynt a'r oerfel. Doedd Baboushka ddim yn gallu cysgu y noson honno am ei bod yn meddwl am yr hyn roedd y dynion wedi ei ddweud wrthi hi, ac am y cyfle bendigedig roedden nhw wedi ei gynnig iddi hi i gael gweld y Tywysog. O'r diwedd penderfunodd hi, pan dorrai'r wawr, y byddai hi'n mynd ar ei ffordd, a hynny ar ei phen ei hun, i chwilio am y Baban, a hwyrach y byddai hi'n dod ar draws y tri hen wr. Yn y bore gwisgodd ei hugan drom amdani, cymerodd ei phastwn, llenwodd fasged a pheli euraidd a theganau pren, ac aeth yn ei blaen i chwilio am y baban Iesu. Ond roedd hi wedi anghofio gorfyn i'r tri hen wr am y ffordd I Fethlehem, ac roedden nhw wedi teithio mor bell drwy'r nos fel na allai hi ddal i fyny gyda nhw. Brysiodd hi i fyny ac i lawr y ffyrdd, trwy'r coedwigoedd a'r caeau a'r trefi, yn dweud wrth bawb a wnaeth eu cyfarfod; "Rydw i'n mynd i ddod o hyd i'r baban Iesu. Ble mae e'n gorwedd? Rydw i'n dod a theganau tlaws iddo fe." Ond doedd neb yn gallu dweud y ffordd wrthi hi. Ysgydwodd pob un ei ben a dweud, "Ymhellach ymlaen, Baboushka, ymhellach ymlaen!" Felly teithiodd am flynyddoedd a blynyddoedd, ond ni ddaeth o hyd i'r baban. Yn Ewrop, maen nhw'n dweud ei bod hi'n teithio o hyd, ac ar noswyl y Nadolig, pan fo'r plant yn cysgu'n drwm, ei bod hi'n dod yn dawel trwy'r caeau a'r trefi eiriaidd, yn gwisgo hygan ac yn cario basged. Mae hi'n mynd i mewn i bob ty ac yn dal cannwyll wrth wynebau'r plant bach. "Ydy e yma?" mae hi'n sisial. "Ydy'r baban Iesu yma?" Ac wedyn mae hi'n ysgwyd ei phen ac yn troi oddi yno yn drist, dan ochneidio, "ymhellach ymlaen, Baboushka, ymhellach ymlaen!" Ond mae hi'n gadael tegan o'i basged i bob bychan sydd yn cysgu - "Er ei fwyn e," mae hi'n ibrwd, ac mae hi'n brysio ymlaen trwy'r nos. A thrannoeth, ar ddydd Nadolig, pan fo'r plant yn dod o hyd i'r teganau yn eu gwelyau, fe ddywedir wrthyn nhw mae rhaid taw Baboushka oedd wedi galw heibio tra roedden nhw'n cysgu.
|
|
|