HEN WLAD FY NHADAU

       

(1) Mae Hen Wlad fy Nhadau yn annwyl i mi

    Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri

     Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad

     Dros ryddid collasant eu gwaed

      ·····

      CYTGAN

      Gwlad! Gwlad!

      Pleidiol wyf i'm gwlad

      Tra'r môr yn fur

      I'r bur hoff bau

      O bydded i'r hen iaith barhau

      ·····

(2) Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd

      Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sy'n hardd

      Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si

      Ei nentydd, afonydd i mi

      ·····

      CYTGAN (Gwlad! Gwlad! etc)

      ·····

(3) Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed

      Mae heniaith y Cymry mor fÿw ag erioed

      Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad

      Na thelyn berseiniol fy ngwlad

 

1. The land of my fathers is dear to me Land of minstrels, famously renouned; Her brave warriors, extremely illustrious,  For freedom they splilled their blood.

Chorus: -  Wales! Wales! faithful am I to my country, And long as the sea is a bulwark to the pure beloved bay, Oh may the old language endure.

2. Old Cymru mountainous, the bard’s paradise, Every valley, every precipice, which are beautiful to the sight; Through patriotic feeling, so enthralling is the murmur Of her streams, rivers to me.

3. Though the enemy has ravaged my realm under his feet, The old speech of Cymru is as great as ever, The breeze is not exhausted by the terrible hand of treason, Nor the melodiious harp of my land.

 

 

 

 

·····  DAFYDD Y GARREG WEN -Cân werin

 

"Cariwch," medd Dafydd, "fy nhelyn i mi,

Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi.

Codwch fy nwylaw i gyrraedd y tant;

Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!"

 

"Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn:

'Dafydd, tyrd adref, a chwarae trwy'r glyn!'

Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant!

Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!"

 

DAVID OF WHITE ROCK

Dafydd said, 'Bring me my harp, I'll try to put a tune on it before I die. Raise my hand to reach the string. God bless you my widow and my children.

Last night I heard the voice of an angel saying: 'Dafydd, come home and play through the glen!'

Harp of my childhood, farewell to your music, God bless you my widow and my children.

 

  AR HYD Y NOS

Holl amrantau'r sêr ddywedant

       Ar hyd y nos

       Dyma'r ffordd i fro gogoniant

       Ar hyd y nos

       Golau arall yw tywyllwch

       I arddangos gwir brydferthwch

       Teulu'r nefoedd mewn tawelwch

       Ar hyd y nos

  

      O mor siriol gwena seren

       Ar hyd y nos

       I oleuo'i chwaer ddaearen

       Ar hyd y nos

       Nos yw henaint pan ddaw cystudd

       Ond i harddu d]n a'i hwyrddydd

       Rhown ein golau gwan i'n gilydd  

       Ar hyd y nos

      

ALL THROUGH THE NIGHT

All the twinkling stars say, all through the night, 'There's the road to the place of glory, all through the night. Other lights are dark to show the truth of the loveliness the heavenly family in peace all through the night.

 

O so cheerily smiles the star all through the night, to light her sister earth all through the night,

age is the night when comes tribulation, but to beautify man and his surroundings  we give our feeble light to each other all through the night,

 

 

 

CWM RHONDDA

 

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd

Wrthrych teilwng o'm holl fryd

Er o ran yr wy'n ei 'nabod

Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd

Henffych fore!

Caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw

Gwyn a gwridog, teg o bryd

Ar ddeng mil y mae'n rhagori

O wrthrychau penna'r byd

Ffrind pechadur

Dyma'r Llywydd ar y môr

 

Beth sydd imi mwy a wnelwyf

Ag eilunod gwael y llawr?

Tystio'r wyf nad yw eu cwmni

I'w gystadlu â'm Iesu mawr

O! am aros

Yn ei gariad ddyddiau f'oes.

 

    CALON LÂN

(1)

Nid wyf yn gofyn bwyd moethus

Aur y byd na'i berlau mân

Gofyn wyf am galon hapus

Calon onest, calon lân

CYTGAN

Calon lân yn llawn daioni

Tecach yw na'r lili dlos

Does ond calon lân all ganu

Canu'r dydd a chanu'r nos

 

(2)

Pe dymunwn olud bydol

Edyn buan ganddo sydd

Golud calon lân rhinweddol

Yn dwyn bythol elw fydd

 

CYTGAN

 

(3)

Hwyr a bore fy nymuniad

Gwyd i'r nef ar edyn cân

Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad

Roddi imi galon lân

 

CYTGAN

 

 

 BUGEILIO'R GWENITH GWYN

(1) Mi sydd fachgen ieuanc ffôl

Yn byw ar ôl fy ffansi

Myfi'n bugeilio'r gwenith gwÿn

Ac arall yn ei fedi

Pam na ddeui ar fy ôl

Rÿw ddydd ar ôl ei gilydd?

Gwaith rw i'n dy weld y feinir fach

Yn lanach lanach beunydd

 

(2) Glanach lanach wÿt bob dydd

Neu fi sy â'm ffydd yn ffolach

Er mwyn y gwr a wnaeth dy wedd

Gwna im drugaredd bellach

Cwn dy ben, gwêl acw draw

Rho imi'th law wen dirion

Gwaith yn dy fynwes bert ei thro

Mae allwedd clo fy nghalon

 

 

 

(3) Tra bo dwr y môr yn hallt

A thra bo 'ngwallt yn tyfu

A thra bo calon yn fy mron

Mi fydda'n ffyddlon iti

Dywed imi'r gwir heb gêl

A rho dan sêl d'atebion

P'un ai myfi neu arall, Gwen,

Sydd orau gen dy galon.

 

      AR LAN Y MÔR

(1)

Ar lan y môr mae rhosys cochion

Ar lan y môr mae lilis gwynion

Ar lan y môr mae 'nghariad inne

Yn cysgu'r nos a chodi'r bore

 

(2)

Ar lan y môr mae cerrig gleision

Ar lan y môr mae blodau'r meibion

Ar lan y môr mae pob rhinwedde

Ar lan y môr mae'n nghariad inne

(3)

Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore

Mor hardd yw'r enfys aml ei liwie

Mor hardd yw natur ym Mehefin

Ond harddwch fÿth yw wyneb Elin

 

      

 

 

 

      

 

 

 

      

 

 

 For intensive Welsh language course

 

 

 

back to Daf's homepage

 

  Back to main Welsh page